
Y Prosiect
Mae’r prosiect hwn yn ganlyniad cydweithrediad parhaus â Phrifysgol Bangor i archwilio dichonoldeb defnyddio microdon amledd uwch-uchel i drin amrywiol gyflyrau croen. Mae’r prosiect hwn yn archwilio technoleg y dyfodol yn ogystal â chymwysiadau cynnyrch posibl ar gyfer marchnadoedd newydd.




Dylunio
Mae Prifysgol Cymru wedi chwarae rhan allweddol wrth symud o gysyniadau damcaniaethol i brototeipiau ffisegol sy’n profi’r dechnoleg. Rydym hefyd wedi cynnal gwahanol lefelau o brofion biofeddygol i ddechrau adeiladu tystiolaeth o ganlyniadau. Drwy gymhwyso ein proses ddylunio gref sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, rydym wedi creu sawl prosiect deillio o’r ymchwil dichonoldeb hon sy’n archwilio cymwysiadau posibl ac ar hyn o bryd rydym yn y broses o weithio gyda phartneriaid i sicrhau buddsoddiad pellach.
